Dwyt ti’m yn cofio Macsen,
does neb yn ei nabod o.
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd,
yn amser rhy hir i’r co’.
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru,
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
a’n gadael yn genedl gyfan,
a heddiw - wele ni !
Cytgan :
Ry’n ni yma o hyd,
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry’n ni yma o hyd,
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry’n ni yma o hyd.
Chwythed y gwynt o’r Dwyrain
Rhued y storm o’r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau’r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued y fagddu o’n cwmpas
Ry’n ni’n barod am doriad y wawr !
Cytgan
Cofiwn i Facsen Wledig
adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd,
"Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn !" // ’Byddwn yma tan Ddydd y Farn !’
Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd,
er gwaetha ’rhen Fagi a’i chriw,
byddwn yma hyd ddiwedd amser,
a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw ! // A’r iaith Gymraeg yn fyw !