Accueil > Répertoire > Yma o Hyd

Yma o Hyd

Dafydd Iwan, Arr. A.M. Fearon

Dwyt ti’m yn cofio Macsen,
does neb yn ei nabod o.
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd,
yn amser rhy hir i’r co’.
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru,
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
a’n gadael yn genedl gyfan,
a heddiw - wele ni !

Cytgan :
Ry’n ni yma o hyd,
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry’n ni yma o hyd,
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth.
Ry’n ni yma o hyd.

Chwythed y gwynt o’r Dwyrain
Rhued y storm o’r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau’r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued y fagddu o’n cwmpas
Ry’n ni’n barod am doriad y wawr !

Cytgan

Cofiwn i Facsen Wledig
adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd,
"Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn !" // ’Byddwn yma tan Ddydd y Farn !’
Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd,
er gwaetha ’rhen Fagi a’i chriw,
byddwn yma hyd ddiwedd amser,
a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw ! // A’r iaith Gymraeg yn fyw !

publié le 14 décembre 2018, passé à la censure le 25 avril 2019

màj 24 septembre 2019 | Plan du site | SPIP | kicycol | Suivre la vie du site RSS 2.0 | Connexion